Croeso i’r Liverpool Arms, Porthaethwy
Croeso i’r Liverpool Arms, Porthaethwy
Bwyd gwych newydd ei goginio ar gael yn ddyddiol.
Mae’r Liverpool Arms ym Mhorthaethwy yn le delfrydol i gyfarfod ar gyfer cinio neu swper. Rydym yn cynnig dewis eang o brydau ffres newydd eu coginio, o gawl cartref a brechdanau, i bryd tri chwrs llawn. Mae’n le ardderchog i gyfarfod â theulu a ffrindiau, ac mae ystafell breifat gyda lle i 28 ar gael ar gyfer partïon swyddfa, cyfarfodydd, aduniadau a.y.y.b..
Ein nod yw darparu bwyd ffres safonol am bris rhesymol a dylech wastad cymryd golwg ar ein byrddau arbennig. Yn ddyddiol mae gennym brydau arbennig sy’n gwneud y defnydd gorau o gynnyrch ffres tymhorol ynghyd â dewis eang o bwdinau cartref.
Yn wahanol i lawer o dafarndai, mae’r prydau yn y Liverpool Arms yn cael eu creu allan o gynnyrch ffres gan ein cogyddion talentog – NID ydynt yn cyrraedd wedi’u pacio’n arbennig ar gyfer y microdon!!
Diolch i chi am ymweld â'n gwefan. Gobeithio ei bod wedi cael digon o wybodaeth; os nad ydych cysylltwch â ni…cliciwch yma.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan. Mae angen archebu o flaen llaw, felly cysylltwch â ni i gadw bwrdd.
|